Xhosa (iaith)
Gwedd
Iaith a siaredir gan grŵp ethnig y Xhosa yn Ne Affrica yw Xhosa; yn yr iaith ei hun isiXhosa. Mae'n un o'r ieithoedd Nguni, sy'n is-deulu o'r ieithoedd Bantu.
Siaredir yr iaith yn bennaf yn ne-ddwyrain De Affrica, er bod y nifer o siaradwyr o gwmpas Tref y Penrhyn yn cynyddu. Gyda tua 8 miliwn o siaradwyr, Xhosa yw'r ail iaith fwyaf cyffredin fel mamiaith yn Ne Affrica, ar ôl Swlw, sy'n perthyn yn agos iddi.
Gramadeg
[golygu | golygu cod]Fel ymhob un o'r ieithoedd Bantu, mae ei gramadeg yn seiliedig ar nifer o ddosbarthiadau; wyth o ddosbarthiadau yn y ffurf unigol, a phump yn y lluosog.
Esiampl:
- Umntwana (plentyn) (dosbarth 1) ; ukubona (gweld) (dosbarth 15); indoda (dyn) (dosbarth 9)
- Umntwana ubona indoda (mae'r plentyn yn gweld y dyn)
- Abantwana babona indoda (mae'r plant yn gweld y dyn)
- Indoda ibona umntwana (mae'r dyn yn gweld y plentyn)