UTC
Enghraifft o'r canlynol | safon amser, cylchfa amser |
---|---|
Yn cynnwys | eiliad naid |
Rhagflaenydd | universal time |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
UTC (Amser yn ôl y Cyd-drefniant Byd-eang) yw'r talfyriad am y raddfa amser cydlyniedig byd-eang sydd wedi cael ei derbyn fel sylfaen amser gan y mwyafrif helaeth o wledydd y byd.
Er bod "UTC" yn ymddangos fel acronym, nid yw'n acronym dilys. Ym 1970 dyfeisiwyd y system Amser Cyffredinol Cydlynol gan grŵp cynghori rhyngwladol o arbenigwyr technegol o fewn yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol (UTRh; Saesneg: International Telecommunication Union, ITU). Penderfynodd yr UTRh y byddai'n dynodi un byrfodd i'w ddefnyddio ym mhob iaith er mwyn osgoi peri dryswch. Ond ar ben hynny, roedden nhw'n dymuno osgoi ffafrio unrhyw iaith benodol. Felly, yn hytrach na defnyddio "CUT", sef y llythrenw ar gyfer "Coordinated Universal Time" yn Saesneg, neu "TUC", sef y llythrenw ar gyfer "Temps Universel Coordonné" yn Ffrangeg, dewiswyd y ffurf "UTC", sy'n ddatrisiad cyfaddawdol nad yw'n cyfateb i eiriau mewn unrhyw iaith.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ National Institute of Standards and Technology (18 Ionawr 2011). "Frequently asked questions (FAQ)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-06. Cyrchwyd 18 Ionawr 2021.