Cymorth:Tudalen sgwrs - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Cymorth:Tudalen sgwrs

Oddi ar Wicipedia
Am gyflwyniad symlach ar sut i ddefnyddio tudalennau sgwrs, gweler Cymorth:Cyflwyniad i dudalennau sgwrs.

Tudalen y gellir ei ddefnyddio gan olygwyr i drafod gwelliannau i erthygl neu dudalen arall ar Wicipedia ydy tudalen sgwrs.

Gelwir y dudalen sgwrs sy'n gysylltiedig ag erthygl yn "Sgwrs:Xxx", gyda "Xxx" yn dynodi enw'r erthygl. Er enghraifft, gelwir y dudalen sgwrs er mwyn trafod gwelliannau i'r erthygl ar Awstralia yn Sgwrs:Awstralia. Cysylltir y dudalen sgwrs gyda thudalen mewn gofod enw arall drwy ychwanegu "sgwrs" ar ôl y label enw gofod; er enghraifft, gelwir y dudalen sgwrs ar gyfer Wicipedia:Ynglŷn â Wicipedia yn Sgwrs Wicipedia:Ynglŷn â Wicipedia.

Ble i ymateb

[golygu | golygu cod]

Mae gan dudalennau defnyddwyr Dudalennau Sgwrs cysylltiedig (er enghraifft, en:User talk:Jimbo Wales). Os yw defnyddiwr arall eisiau cysylltu â chi, byddant yn gwneud hyn fel arfer drwy adael neges ar eich Tudalen Sgwrs chi, a byddwch yn gweld rhybudd gwybodaeth oren (wrth eich Enw Defnyddiwr ar frig y ddalen) y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi neu'n edrych ar dudalen ar Wicipedia.

Mae gennych ddewis ble i ymateb: naill ai o dan y sylw ar ei Tudalen Sgwrs chi, neu ar Dudalen Sgwrs y Defnyddiwr arall. Yr hyn sydd o blaid y dewis cyntaf yw fod y llinyn sgwrs yn cael ei gadw'n daclus o dan ei gilydd. O blaid yr ail: gwyddoch i sicrwydd fod y Defnyddiwr yn cael y neges. Fel arfer, os yw Defnyddiwr yn gadael sylw ar eich Tudalen Sgwrs chi, bydd yn cadw llygad barcud am ymateb, ond er mwyn fod yn gwbwl sicr ei fod yn gweld eich ymateb, gallwch ei bingio drwy ddefnyddio'r Nodyn {{ping|A chopio enw'r Defnyddiwr yma}} e.e. @AlwynapHuw:. Caiff nodyn yn dweud eich bod wedi'i enwi a chedwir y llinyn sgwrs yn daclus o dan ei gilydd.

Llofnodi sylwadau

[golygu | golygu cod]

Llofnodwch eich sylwadau ar dudalennau sgwrs (fel y diffinwyd uchod), a hefyd ar dudalennau prosiect â bwriad o sgwrsfan, megis y caffi, os gwelwch yn dda. Cewch wneud hyn gan glicio ar y botwm , neu drwy deipio pedwar tilde, sef ~~~~. Mae'r feddalwedd yn ehangu hyn i ddangos eich enw defnyddwr a'r amser cyfoes (ond cewch ddewis ffurf union eich llofnod odan "fy newisiadau"). Mae'ch llofnod yn helpu defnyddwyr eraill i weld pwy a ysgrifennodd beth, heb chwilio yn fanwl yn yr hanes. Diolch.